Posted on

5 Diwrnod Da – Yr Ail Ddydd

Am yr ail ddydd o ‘5 Diwrnod Da’ rwyf wedi penderfynu cefnogi elusen bwysig sydd yn agos i fy nghalon. Dwi’n caru anifeiliaid, ac felly rwyf wedi dewis mabwysiadu Llewpard Amur trwy’r elusen WWF. Creadur nosol yw’r llewpard amur, yn byw yn annibynnol oni bai pen fyddant yn codi babanod. Mae’r rhywogaeth o lewpard yma mewn perygl ar hyn o bryd gyda dim ond 100 ohonyn nhw ar ôl yn y gwyllt, a’u cynefin dan fygythiad o achos coedio, tanau a datblygiadau diwydiannol — sydd hefyd yn effeithio ar ysglyfaeth yr anifail. Yn ogystal â dirywiad cynefin ac ysglyfaeth y rhywogaeth, mae’r llewpard yn wynebu’r broblem o botsio, oherwydd eu cotiau hyfryd.

Ffeil o Ffeithiau

Wedi’i restru fel anifail mewn perygl 

Hyd oes: 10 – 15 mlynedd yn y gwyllt

Uchder Oedolyn: 64 – 78 cm

Pwysau: 32 – 48 kg (gwrywaidd) 25 – 42 kg (benywaidd)

Cyflymder Rhedeg: 35 milltir yr awr

Hyd Naid: 19 tr (5.8 m) yn llorweddol

Hyd ei Gynffon: 81 – 89 cm

Ffaith Hyfryd: Daw eu cynffonau hir yn ddefnyddiol iawn yn ystod y gaeaf gan eu bod nhw’n ei defnyddio i lapio o gwmpas eu hunain i gadw’n gynnes.

5-Diwrnod-Da-Diwrnod-Dau-Cardiau-Cymraeg-5-Good-Days-Day-2-Welsh-Cards(waza.org)

Am fwy o wybodaeth am yr achos a’r anifail ewch i wefan WWF. Cadwch llygaid ar ein postion Instagram a blog i weld beth sydd yn mynd ymlaen yfory am ddiwrnod 3 o’n 5 Diwrnod Da!