Posted on

Croeso Cynnes

Croeso i Cardiau Cymraeg!

Rydym yn siop fach annibynnol cardiau cyfarch Cymraeg, wedi’i lleoli yn Ne Cymru ac wedi’i sefydlu gan ddylunydd Cymreig ifanc. Pwrpas Cardiau Cymraeg ydy ehangu’r hyn sydd ar gael yng Nghymru, ac ychwanegu at y nifer o nwyddau Gymraeg sydd ar gael. Mae yna groeso i bawb yma yn Cardiau Cymraeg, ac mae pob peth rydym yn posto ar lein yn cael ei ysgrifennu yn ddwyieithog – yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Dulynydd-Cardiau-Cymraeg-Welsh-Card-Designer

Fel siaradwr Cymraeg, rwyf wedi ffeindio fy hun yn aml yn chwilio am y garden Cymraeg perffaith ‘na, (yn enwedig at benblwydd Mamgu) ac wedi fy siomi gyda’r dewis – neu’r diffyg dewis. Felly, penderfynais ddylunio cardiau fy hun, ac felly ganwyd Cardiau Cymraeg. Tyfodd y siop o syniad bach ac angerdd mawr. Rydym yn dylunio yn barhaus, er mwyn sicrhau ein bod yn diweddaru ein stoc yn fuan – pob carden wedi’i darlunio â llaw, a’i chreu â chariad. Ar hyn o bryd mae ein dewis o gardiau’n eithaf bach, ond mae e’n parhau i ehangu, gyda’r nod o gynnwys cymaint o fathau o gardiau ag sy’n bosib, gyda’r un safon uchel o ofal a chariad yn mynd mewn i bob dyluniad. Rydym wastad yn diweddaru ein cyfryngau cymdeithasol gyda’n cardiau a dyluniadau newydd, ac yn rhannu lluniau yn dangos beth sy’n mynd ymlaen tu ôl y llenni. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein Instagram, Twitter, ac yn lico ein Tudalen FaceBook, er mwyn cadw lan gyda’r hyn sydd yn mynd ymlaen gyda ni yng Ngardiau Cymraeg.

Dewch i bori ein cardiau, rydym yn siŵr y byddwch chi’n dod o hyd i rywbeth a fydd yn dod â gwên i’ch wyneb!