Posted on

Amsterdam

Fy antur fwyaf diweddar: taith dros 4 diwrnod i Amsterdam.

Amsterdam

Dwi’n caru anturio ac archwilio llefydd newydd, ac er fy mod fel arfer yn archwilio llwybrau arfordirol Cymru, penderfynais i a fy mhartner dianc am ychydig ddyddiau i deithio i le hollol wahanol. Gan ei fod hefyd yn fy mhenblwydd (yn ogystal â Dydd Sant Ffolant) penderfynon ni fynd i’r Iseldiroedd am seibiant dinas ac ymweld ag Amsterdam.

Yn wreiddiol daeth y syniad o fynd i Amsterdam o weld bod The Band Camino yn perfformio ar draws Ewrop, a bod ganddyn nhw gig yn Amsterdam diwrnod ar ôl fy mhenblwydd – mae fy mhartner a minnau yn caru’r band yma, ac felly hon oedd yr esgus perffaith i drefnu trip. Roedden nhw’n anhygoel.

Fe dreulion ni weddill y gwyliau yn crwydro’r ddinas aflonydd, ac ymweld â’r golygfeydd hyfryd sydd gan Amsterdam i’w chynnig. Pan gawsom ni tywydd gwael, aethom i archwilio arddangosfeydd ac orielau celf. Yr uchafbwynt i mi oedd bendant yr Amgueddfa Moco, lle gwelsom ni arddangosfa Banksy Laugh Now, rhai darnau celf gan Warhol, Haring a Hirst, ac yr arddangosfa golau fwyaf anhygoel gan Studio Irma. Mwynheais i’r daith, ac er nad oedd yn 4 diwrnod yn ‘ymlaciol’, roedd bendant yn seibiant braf o brysurdeb bywyd bob dydd.

Amsterdam

Byddaf bendant yn mynd nôl i Amsterdam pan fydd yna dywydd mwy braf.

Posted on

Daeth S4C i Fy Nhŷ

Os na welsoch chi’r rhaglen Heno ar S4C Dydd Gwener, ges i a fy siop fach Cardiau Cymraeg ymddangosiad bach! Ar deledu! Gwyliwch isod:

Os oeddech wedi dweud wrthyf flwyddyn yn ôl bydd S4C yn fy ngwahodd i i ffilmio eitem ar y rhaglen Heno, byddaf byth wedi eich credu – a bendant ni fyddaf wedi credu fy mod gallu goresgyn fy nerfau! Ond ges i wahoddiad, ac fe wnes i dderbyn y cyfle.

Heb amheuaeth hwn yw’r peth mwyaf brawychus rwyf byth wedi’i wneud, ond dwi mor falch fe wnes i. Daeth tîm lyfli o S4C draw i fy nhŷ, i gael gweld tu ôl i lenni fy siop Cardiau Cymraeg, ac i ofyn cwestiynau am y siop – lle ddechreuodd, fy ysbrydoliaeth ayyb. Roeddwn yn crynu fel deilen cyn iddyn nhw gyrraedd wythnos diwethaf, ond unwaith i ni gael y cwestiynau allan o’r ffordd, ges i lwyth o hwyl yn dangos peth o’r broses tu ôl i ddylunio fy nghardiau a pharatoi archebion.

Gan fod y cyfweliad i gyd heb gyrraedd y rhaglen, dyma’r cwestiynau ges i fy ngofyn a’r atebion

1. Tud bach o hanes y cwmni i ni. Lle dechreuodd y siop a pam?

Ges i’r syniad o ddechrau Cardiau Cymraeg o fy nhad a fy mrawd ar ôl i mi raddio o’r Brif Ysgol yn dylunio. O ni mhoen neud rhywbeth creadigol, bach o hwyl a rhywbeth lle allai dylunio ac arlunio. Er taw fi sy’n arlunio a dylunio’r cardiau, dwi wedi cael llwyth o gymorth o fy nheulu trwy greu’r gwefan, a rhoi adborth ar ddyluniadau newydd. Agorais i dudalen Instagram a lansio’r siop tua flwyddyn ynôl. Y bore ar ôl lansio ar Instagram ges i neges o’r siop gyntaf yn holi am stocio’r cardiau yn ei siop – o ni methu credu’r peth. Cyn darllen y neges wnes i ddim hyd yn oed ystyried gwerthu’r cardiau mewn siopau! Dwi’n parhau i gael llwyth o gymorth o fy nheulu a bendant wrth fy mhartner sy’n tynnu’r lluniau hyfryd o’r cardiau a’r printiau (gallwch weld ar y tudalen Instagram) a trwy helpu plygu’r cardiau a pharatoi archebion mawr.

2. Pam ddewisoch chi beidio defnyddio plastig? Beth wyt ti’n defnyddio yn ei le?

Roedd yn bwysig iawn i fi ddechrau rhywbeth mor ecogyfeillgar ag sy’n bosib, trwy sicrhau bod popeth yn fioddiraddadwy neu yn gallu cael ei ailgylchu. O ni bendant ddim eisiau ychwanegu at y broblem blastig, felly yn lle defnyddio pecynnau plastig defnydd-sengl ar fy nghardiau, dwi’n defnyddio bandiau papur crefft – sydd yn fioddiraddadwy a gall cael eu hailgylchu. O ran y printiau, dwi’n defnyddio pecynnau sy’n gweithio fel y rhai plastig, ond maen nhw wedi’u creu o startsh tatws, felly mae’r pecynnau yma’n hollol fioddiraddadwy hefyd!

3. Beth ydy dy ysbrydoliaeth pan wyt ti’n dylunio’r cardiau?

Dwi’n cael fy ysbrydoli o bawb a phopeth – o ran syniadau’r dyluniadau, ga’ i syniadau yng nghanol y nos, dwi’n neud nodiadau trwy’r amser, ac ambell waith gaf i negeseuon o gwsmeriaid yn gofyn: “Wyt ti’n gwerthu carden fel hon?” lle wy’n ateb “Dim ‘to, ond fe fyddai!” Mae fy nheulu a ffrindiau a fy mhartner yn awgrymu mathau o gardiau ddylen i ddylunio trwy’r amser. Mae yna lwyth o syniadau yn dod o bobman. Gwelai llun o anifail a meddwl dwi eisiau arlunio un o rain, heb wybod beth fydd y garden nes ar ôl i mi orffen y darlun.

4. Gyda San Ffolant ar y gweill oes unrhyw gardiau rhamantus newydd? Os oes, gallwn ni gael rhagolwg o un?

Mae yna lwyth o gardiau cariad ar gael ar wefan y siop, ond amser yma’r flwyddyn dwi yn cael fy ysbrydoli i greu rhagor yn barod at flwyddyn nesaf. Mae yna un allai ddangos i chi – dyw e heb gael ei danfon i brint eto. Dyluniad o ddau Puffin sydd ar y cerdyn yma. Ges i’r syniad ar ôl cerdded trwy dref fach yn Sir Benfro lle bu arlunydd yn paentio llwyth o puffins bach ar draws y dref. Gwelais i’r puffins yma, a chefais i fy ysbrydoli i arlunio un fy hun – felly fe wnes i heb syniad o ba fath o gerdyn fydd. Ar ôl i mi orffen y dyluniad, roedd y puffin yn edrych bach yn unig felly ychwanegais i un arall a charden cardiau trodd e mewn i.

Fy-Nghariad-S4C-Cardiau-Cymraeg-My-Love-Welsh-Cards

5. Beth yw eich gobeithion ar gyfer dyfodol Cardiau Cymraeg?

I fod yn hollol onest, dwi wrth fy modd gyda Cardiau Cymraeg a methu credu bod cymaint o bobl yn prynu’r cardiau heb sôn bod nhw’n cael eu gwerthu mewn siopau ar draws Cymru! Yn y dyfodol hoffwn i fod y siop yn bodoli, a hefyd fod llwyth mwy o ddyluniadau cardiau a phrintiau ar gael!

_

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r siop mewn pob ffordd, a diolch mawr i S4C a thîm Heno am fy ngwahodd i’r rhaglen! x

Posted on

Argyfwng Tannau Awstralia

“While trees burn, our wildlife also suffers. It’s been estimated that around 1.25 billion animals have been killed across Australia to date. This includes thousands of koalas and other iconic species such as kangaroos, wallabies, kookaburras, cockatoos and honeyeaters burnt alive, and many thousands more injured and homeless.” – WWF

Wrth i danau Awstralia parhau i losgi’n fygythiol, penderfynwyd Cardiau Cymraeg i greu cynnyrch all gael eu gwerthu gyda’r holl elw yn cael eu rhoddi i ‘Cronfa Adfer Bywyd Gwyllt a Natur Awstralia WWF’.

Nôl ym mis Tachwedd, gwnaethom gymryd rhan mewn sialens ‘5 Diwrnod Da’, lle buom yn ymroddi pob un o’r pum diwrnod i godi ymwybyddiaeth ac / neu gyfrannu at achos pwysig. Am y pumed diwrnod, cawsom ni syniad o arlunio, dylunio a chreu carden a gall cael eu gwerthu gyda’r holl elw yn cael eu rhoddi i achos arbennig. Roedd hi’n anodd dewis achos, gan fod cymaint o rhai pwysig. Ond, gyda’r tannau gwyllt yn Awstralia ar hyn o bryd, rydym wedi penderfynu cysegru ein carden elusen ar yr arth koala, a rhoddi’r holl elw i elusen WWF.

Koala-Australia-Bushfires-Charity-Card-Cardiau-Cymraeg

Mae’r cerdyn hon yn cynnwys darlun wedi’i arlunio yn ddigidol â llaw, o arth koala yn bwyta dail yn hapus. Am bob un o’r cardiau Koala yma caiff eu gwerthu, fe fydd yr holl elw yn cael eu rhoddi i WWF ar ddiwedd pob mis.

Os hoffech roddi rhagor i’r achos, cliciwch yma i gael eich cyfeirio at wefan WWF.

Posted on

Just A Card

Fel rhan o ddiwrnod un o Just a Card Indie Week – “Cyflwyno’ch Hun” – yn ogystal â fy mhostyn Instagram, rwyf wedi penderfynu ysgrifennu postyn blog bach wedi’i lunio ar 10 ffaith amdana i.

Cardiau-Cymraeg-Just-A-Card-Indie-Week

1. Un o 4 ydw i, mae gen i ddau frawd hun ac un chwaer iau

2. Mae gen i gi – Labrador Siocled – o’r enw Barney.

3. Fy nghath i yw bendant y gath fwyaf grac, ond mae e’n ciwt.

4. Yn fy amser hamdden rwyf yn mwynhau cerdded llwybrau arfordirol Sir Benfro.

5. Rwyf yn anelu at wneud cwrs ymarfer dysgu yn y dyfodol.

6. Rwy’n caru rhaglennu natur David Attenborough, ac mae gen i gasgliad o lyfrau o’i chyfresi deledu.

7. Alla’i ddim eistedd yn llonydd – rwyf naill ai yn gweithio ar fy musnes cardiau cyfarch, arlunio, darllen neu fynd ar anturiaethau.

8. Mae gen i radd mewn Cyfathrebu Graffig.

9. Mae gen i wyneb eithaf ifanc, ond rwyf yn gobeithio fe fydd yn ddefnyddiol pan fyddaf yn hen fenyw.

10. Rwyf wrth fy modd gyda Chardiau Cymraeg, ac mae’n llenwi fy nghalon i feddwl bod cymaint o bobl wedi prynu fy nyluniadau bach a’u bod nhw’n cael eu gwerthu yn siopau ledled Cymru!

Posted on

5 Diwrnod Da – Y Trydydd Dydd

“It is high time we turn our attention fully to one of the most pressing problems of today – averting the plastic pollution crisis – not only for the health of our planet, but for the wellbeing of people around the world.” – David Attenborough

5-Diwrnod-Da-Diwrnod-Tri-Cardiau-Cymraeg-5-Good-Days-Day-3-Welsh-Cards

Am y trydydd diwrnod o ‘5 Diwrnod Da’ rwyf wedi dewis casglu rhestr o gyfnewidiadau di-blastig hawdd iawn i’w wneud, ac yn gwneud byd o wahaniaeth.

“The total amount of plastic entering the marine environment is over 12m tonnes a year – according to a report by Eunomia in 2016. For comparison, a double-decker bus weighs about 12 tonnes.” – friendsoftheearth.uk

Wrth geisio fod yn fwy cyfeillgar i’r amgylchedd, trwy wneud cyfnewidiadau syml i leihau fy nefnydd o blastig-un-defnydd, rwyf wedi casglu detholiad o ddewisiadau amgen o gynhyrchion, sydd yn gynaliadwy ac yn gallu cael eu hailddefnyddio.

Bagiau ‘Tote’
Wrth fuddsoddi mewn un bag tote syml, gallwch arbed y defnydd o filoedd o fagiau plastig bob blwyddyn.

100,000 marine animals are killed by plastic bags annually.” – biologicaldiversity.org/

Prynais y bag gwelir uchod wrth yr arlunydd Saesneg Laura Daly ar ei thudalen Etsy. Dewisais brynu’r bag hon yn benodol gan fod y siop yma yn rhoi cyfran o’i elw i elusen cadwraeth cefnfor, sy’n gweithio’n galed i frwydro yn erbyn llygredd plastig yn ein moroedd.

Cynhyrchion LUSH 
Mae barau siampŵ LUSH yn ddewis arall ecogyfeillgar gallwch wneud, yn lle prynu cynhyrchion golchi mewn poteli, gan fod ganddyn nhw becynnu ‘noeth’ h.y. unwaith maen nhw’n cael eu defnyddio, maen nhw’n gadael dim byd ar ôl. Wrth brynu wrth LUSH, cewch eich cynhyrchion mewn bagiau papur bioddiraddadwy – yn hollol ddi-blastig! Mae LUSH hefyd yn gwerthu cynwysyddion tun a chorc ar gyfer bariau siampŵ ac ati, sydd yn eich galluogi i fynd â’ch cynhyrchion unrhyw le.

Brws Dannedd Bambŵ
Mae brwsys dannedd plastig yn niweidiol iawn i’r amgylchedd, dewis arall cynaliadwy yw brwsys dannedd bambŵ sy’n fioddiraddadwy ac yn dod o ddeunydd naturiol adnewyddadwy iawn, sydd ag eiddo gwrthfacterol a gwrthffyngol. Gellir dod o hyd i’r brwsys dannedd yma ar-lein, yn ogystal ac mewn unrhyw siop dim-gwastraff.

Buds Cotwm Bioddiraddadwy
Ar ôl ymchwilio i mewn i ffyrdd o fyw mwy cyfeillgar i’r amgylchedd, darganfyddais effeithiau negyddol iawn buds cotwm ar yr amgylchedd.

“In the UK alone it is estimated that we use 1.8 billion, mostly single use plastic, cotton buds every year […] resulted in the pollution of inland waterways and the marine environment.” – cottonbudproject.org.uk

Des i o hyd i buds cotwm bambŵ, sy’n gwbl fioddiraddadwy – gellir eu prynu ar-lein neu mewn unrhyw siop dim-gwastraff.

Cardiau Cymraeg Card
Wrth gwrs, ni fyddwn yn ysgrifennu postyn blog am gynhyrchion ecogyfeillgar a ddim cynnwys fy ngherdyn fy hun! Gan fy mod yn caru’r amgylchedd cymaint, rwyf yn gwrthod lapio fy nghardiau mewn unrhyw blastig (diangen yn fy marn i), yn lle rwyf yn sicrhau bod holl ddeunydd pacio a chynhyrchion Cardiau Cymraeg yn ailgylchadwy ac yn fioddiraddadwy.

Bamboo Straw & Bag
Yn ddiweddar, ymwelais â siop dim-gwastraff ‘Happy Planet Green Store’ yn Arberth. Des i o hyd i welltiau bambŵ a bagiau cotwm bach hyfryd i’w cadw i mewn. Nid wyf yn ddefnyddiwr gwellt enfawr fy hun, ond wrth weld y gwellt a’r bag yma roedd rhaid i mi gael un.

“More than half a billion plastic straws are used every day around the world.”earthday.org

Travel Mug
Yn llwyth o siopau coffi nawr mae yna gynnig o ostyngiadau ar ddiodydd poeth os yw’r cwsmer yn dod â’i fwg teithio ei hun i mewn. Roedd fy mwg teithio hyfryd (a welir yn y ddelwedd uchod) yn anrheg ‘Dolig un flwyddyn. Ers ni rwyf wedi prynu cwpl arall, gan fod cymaint o ddyluniadau anhygoel ar gael.

16 billion disposable coffee cups are used each year. These are coated with plastic to laminate the inside and use plastic lids.”earthday.org

Glass Water Bottle
Yn ddiweddar, gwnes i gyfnewid o botel ddŵr ailddefnyddiadwy plastig (sy’n dal i gael ei ddefnyddio) i un gwydr. Er fy mod eisiau buddsoddi mewn potel gwydr am amser hir, roeddwn yn ofni eu torri. Ond, ar ôl ymchwilio darganfyddais fod rhan fwyaf o boteli gwydr yn dod â rhyw fath o amddiffyniad o’i hamgylch, sydd yn lleihau’r risg o’i dorri. Ynghyd â’r botel yn y llun (uchod) prynais botel wydr gyda gwelltyn, gan gwmni sy’n rhoi canran o’r enillion i’r Gymdeithas Cadwraeth Forol.

“More than 480 billion plastic bottles were sold worldwide in 2016. That is up from about 300 billion only a decade ago.” – earthday.org

Reusable Sandwich Bag
Cefais y bag brechdanau ailddefnyddiadwy fel anrheg ‘Dolig, heb wybod bod y rhain yn bodoli ar y pryd, ac rwyf yn ei GARU. Mae bagiau brechdanau plastig defnydd-sengl yn hynod o wastraffus, ac mae gwneud y buddsoddiad bach / cyfnewid yma yn ffordd hawdd o wynebu’r mater parhaus o lygredd plastig.

Reusable Cotton Pads

Rhai blynyddoedd yn ôl, penderfynais roi’r gorau i ddefnyddio padiau cotwm defnydd-sengl, a gwneud y cyfnewid i badiau cotwm ailddefnyddiadwy (fel y gwelir uchod) y gellir eu golchi a’u hailddefnyddio drosodd a throsodd. Nawr, nid wyf yn cyfrannu rhagor at lygredd plastig trwy becynnu plastig y blagur cotwm, ac rwyf hefyd yn lleihau fy ngwastraff dŵr. Fy hoff badiau ailddefnyddiadwy i’w brynu ydy’r rhai o dudalen Etsy Little Green Craft – byddaf yn eu hargymell yn fawr i unrhyw un sy’n dymuno gwneud y cyfnewid.

“20,000 LITRES– The amount of water needed to produce one kilogram of cotton; equivalent to a single t-shirt and pair of jeans.” – worldwildlife.org

* 20,000 litr = yr hyn byddai un person yn ei yfed dros dair blynedd.

Dyma ychydig o bethau bach y gellir eu gwneud i leihau gwastraff plastig a helpu ein hamgylchedd trwy wynebu’r broblem.

Edrychwch allan am ein postion Instagramblog i weld beth sydd yn mynd ymlaen yfory am ddiwrnod 2 o’n 5 Diwrnod Da!

Posted on

5 Diwrnod Da – Yr Ail Ddydd

Am yr ail ddydd o ‘5 Diwrnod Da’ rwyf wedi penderfynu cefnogi elusen bwysig sydd yn agos i fy nghalon. Dwi’n caru anifeiliaid, ac felly rwyf wedi dewis mabwysiadu Llewpard Amur trwy’r elusen WWF. Creadur nosol yw’r llewpard amur, yn byw yn annibynnol oni bai pen fyddant yn codi babanod. Mae’r rhywogaeth o lewpard yma mewn perygl ar hyn o bryd gyda dim ond 100 ohonyn nhw ar ôl yn y gwyllt, a’u cynefin dan fygythiad o achos coedio, tanau a datblygiadau diwydiannol — sydd hefyd yn effeithio ar ysglyfaeth yr anifail. Yn ogystal â dirywiad cynefin ac ysglyfaeth y rhywogaeth, mae’r llewpard yn wynebu’r broblem o botsio, oherwydd eu cotiau hyfryd.

Ffeil o Ffeithiau

Wedi’i restru fel anifail mewn perygl 

Hyd oes: 10 – 15 mlynedd yn y gwyllt

Uchder Oedolyn: 64 – 78 cm

Pwysau: 32 – 48 kg (gwrywaidd) 25 – 42 kg (benywaidd)

Cyflymder Rhedeg: 35 milltir yr awr

Hyd Naid: 19 tr (5.8 m) yn llorweddol

Hyd ei Gynffon: 81 – 89 cm

Ffaith Hyfryd: Daw eu cynffonau hir yn ddefnyddiol iawn yn ystod y gaeaf gan eu bod nhw’n ei defnyddio i lapio o gwmpas eu hunain i gadw’n gynnes.

5-Diwrnod-Da-Diwrnod-Dau-Cardiau-Cymraeg-5-Good-Days-Day-2-Welsh-Cards(waza.org)

Am fwy o wybodaeth am yr achos a’r anifail ewch i wefan WWF. Cadwch llygaid ar ein postion Instagram a blog i weld beth sydd yn mynd ymlaen yfory am ddiwrnod 3 o’n 5 Diwrnod Da!

Posted on

5 Diwrnod Da – Y Dydd Cyntaf

Gan ei bod hi’n dymor y Nadolig, mae Cardiau Cymraeg wedi penderfynu cymryd rhan mewn ‘5 Diwrnod Da’, sef rhywbeth rydym wedi cynllunio i ganolbwyntio ar un elusen neu ryw fath o achos bob dydd am y 5 diwrnod nesaf, i roi yn ôl amser yma’r flwyddyn. I ddechrau’r 5 diwrnod da, heddiw gwnaethom roi rhodd o ddau shoebox llawn anrhegion Nadolig, i’r elusenOperation Christmas Child.

5-Diwrnod-Da-Diwrnod-Un-Cardiau-Cymraeg-5-Good-Days-Day-1-Welsh-Cards

Mae’r rhodd yma’n syml iawn i’w neud – y cyfan sydd angen i baratoi yw penderfynu ar ryw ac oedran y plentyn ddylai derbyn eich bocs: bachgen neu Ferch, ac oed 2-4, 5-9 neu 10-14.

Wedyn dilynwch y pump cam nesaf:

1. Dewch o hyd i hen focs esgidiau a’i addurno â phapur lapio lliwgar, gan sicrhau eich bod chi’n lapio’r caead a’r bocs ar wahân fel y gellir eu hagor os bu angen.

– gan ein bod eisiau aros mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosib, fe wnaethon ni lapio ein blychau wrth ddefnyddio papur brown a thâp brown ailgylchadwy, a’u haddurno trwy ddarlunio goleuadau Nadolig.

2. Ewch i siopa (fy hoff ran) a dewiswch bethau i lenwi’r blychau gydag anrhegion hyfryd. Mae’n dda cadw mewn cof wrth siopa bod angen cyflenwadau ysgol, eitem “waw” – sef tegan gall y plentyn caru, eitemau hylendid, a phethau bach hwyliog. Yr unig broblem yw bod angen i’r holl bethau hyn ffitio o fewn y bocs esgidiau.

3. Paciwch y cyfan i fyny ac argraffwch y label gan nodi’r rhyw a’r oedran.

Dewisol ond wedi’i argymhellir:
Rhowch lun o’ch rhodd ar gyfryngau cymdeithasol i annog eraill i gyfrannu hefyd!

4. Rhoi £5 y blwch i’r elusen i helpu gyda chostau dosbarthu’r anrhegion i blant ledled y byd. Wrth roi’r rhodd yma, byddwch hefyd yn derbyn cod bar y gellir ei argraffu a’i roi tu fewn i’r blwch. Fe fydd y cod bar hwn wedyn yn cael ei sganio ac ym mis Ionawr byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych ym mha wlad wnaeth eich bocs lanio!

5. Ewch ar focs i’r lleoliad gollwch! Mae yna lwyth o leoliadau gollwng lle mae’r blychau hyn yn cael eu casglu, edrychwch ar y wefan yma i ddod o hyd i’ch lleoliad gollwng agosaf.

Cawsom gymaint o hwyl yn adeiladu’r blychau hyn, ac nid oes rhaid iddo fod yn rhy ddrud – aethom i siopau fel Poundland a Home Bargains a llwyddo i gael cymaint o bethau hyfryd am tua £10 y bocs. Gan ein bod wedi llenwi dau focs, fe wnaethon ni brynu pethau fel sbyngau a gwahanol ddeunydd ysgrifennu mewn pecynnau i’w rhannu rhwng y ddau focs. Eleni wnaethom benderfynu dewis yr oedran 2-4 ar gyfer ein blychau, un i ferch a’r llall i bachgen.

Dyma beth wnaethon ni ei gynnwys yn ein blychau esgidiau (wrth gwrs roedd popeth yn deg rhwng y bachgen a’r ferch):

– Tedi meddal

– Llyfr lliwio, llyfr sticeri a llyfr darlunio

– Cyflenwadau ysgol gan gynnwys: pensiliau lliwio, creonau a cas pensil i dal popeth (er mwyn arbed lle, tynnwch becynnu rhai pethau i ffwrdd)

– Brws dannedd, sbyngau, sebon, cymeriad hwyliog golchi (y pethau cawod puffy) a phlasteri plant

– botel dwr

– brws gwallt (i’r ferch)

– car bach (i’r bachgen)

– seiloffon plant

… ac wrth gwrs Cerdyn Nadolig Cardiau Cymraeg gyda neges fach Nadolig!

Mae yna restr o eitemau ni chaniateir, a rhai rheolau y mae’n rhaid dilyn wrth brynu ar gyfer y blychau – mwy o wybodaeth yma. Mae hwn yn ffordd fach hwyl i roi nôl y Nadolig yma, sy’n gwneud gwahaniaeth i blentyn mewn gwlad dlawd, a byddwn yn bendant yn parhau i wneud hyn bob blwyddyn. Yn anffodus nid oes llawer o amser ar ôl i roi’r blychau hyn, gan ei bod hi’n ddiwedd yr wythnos gollwng Dydd Llun y 18fed o Dachwedd. Er hyn, os cewch eich ysbrydoli i gyfrannu, ac os oes dim amser i bacio bocs yfory (a gollwng fore Dydd Llun) mae yna adran ar y wefan lle gallwch bacio bocs munud olaf gan ddewis eich eitemau ar-lein am £20 yn cynnwys y rhodd prosiect o £5, neu anfon blwch wedi’i phacio o flaen llaw ar-lein am yr un gost.

Edrychwch allan am ein postion Instagramblog i weld beth sydd yn mynd ymlaen yfory am ddiwrnod 2 o’n 5 Diwrnod Da!

Posted on

Gyfeillgar i’r Amgylchedd

Mae Cardiau Cymraeg yn credu yn gryf mewn arbed ein byd arbennig, ac rydym (yn amlwg) yn casáu plastig defnydd-sengl. Rydym felly yn ceisio sicrhau bod ein cynhyrchion yn gadael yr effaith lleiaf posib ar ein hamgylchedd. Rydym yn caru ein byd bach ni, ac yn credu dylai pawb ceisio neud bach mwy er mwyn diogelu ein hamgylchedd.

Cardiau-Cymraeg-Dim-Plastig-Plastic-Free-Welsh-Cards

Chi’n gwybod y pecynnau lapio plastig ‘na, sydd yn rhoi carden cyfarch yr edrychiad gorffenedig “perffaith”, wrth ei amddiffyn o unrhyw ddifrod? Gwnewch chi byth ffeindio’r rheina ar ein cardiau ni.

Rydym yn credu bod yr effaith hirdymor ar yr amgylchedd, o blastig defnydd-sengl ddim gwerth y cadw byrdymor o garden cyfarch. Fodd bynnag, rydym yn ymfalchïo yn ein cardiau bach Cymraeg, ac yn defnyddio ffyrdd mwy cyfeillgar i’r amgylchedd o roi’r golwg gorffenedig perffaith i bob carden. Mae ein pecynnu syml iawn yn cynnwys stribed o bapur crefft ailgylchadwy, gyda stamp bach o’n logo. O, a wnaethon ni dweud? Mae pob un o’n cardiau wedi’i chreu gan ddefnyddio ‘papur heb ei orchuddio’, sydd yn meddwl gall pob carden ac amlen cael ei ailgylchu!

Dewch i bori ein hamrywiaeth o gardiau, ac fe allwch brynu heb orfod becso am unrhyw wastraff gall ddod o’r pecynnu!

Posted on

Rhodd Elusen

Rhai wythnosau yn ôl, penderfynom ni casglu detholiad o’n cardiau er mwyn creu rhodd fach i elusen leol sydd yn agos iawn i’n calonnau. Cafodd pob un o’r cardiau yma eu gwerthu gyda’r enillion i GYD yn mynd tuag at yr achos.

Dyma Zen yn barod i roddi ein cardiau!

Yr elusen leol yma yw’r achos parhaus cronfa adeiladu ar gyfer Capel Caersalem Newydd, gan fod yr hen adeilad mewn angen brwdfrydig o adnewyddu. Mae cynulleidfa’r capel wedi bod yn gweithio’n galed i godi arian ar gyfer yr adeilad, ond er eu bod wedi codi swm mawr mae yna dal bell i fynd. Mae’r adeilad prydferth yn agos iawn i galonnau’r boblogaeth leol, ond yn anffodus o ganlyniad i hynafiaeth strwythur yr adeilad, roedd rhaid cau’r Capel am nawr er mwyn dechrau’r adnewyddiadau. O ganlyniad i hyn, mae yna rywfaint o straen ar y gymuned leol, yn gorfodi aelodau’r capel i gasglu yn gapeli eraill i fynychu gwasanaethau Sul. Er croeso cynnes o gapeli eraill, mae hi wedi bod yn waith caled i fynychu’r lleoliadau hyn gan fod nifer o aelodau Caersalem yn oedrannus ac felly ddim yn gyrru.

Roedd ein cyfraniad o gardiau yn fach iawn wrth ystyried yr arian sydd angen ar gyfer helpu’r adeilad yma, ond rydym yn ymwybodol iawn bod pob rhodd, mawr neu fach, wedi’i werthfawrogi’n fawr.

Os hoffech chi roddi i’r achos, neu ddarllen mwy am y capel cliciwch yma.

Posted on

Cardiau Cariad

Cardiau Cariad ar gael o’n siop nawr!

Cardiau-Cariad-Cymraeg-Welsh-Love-Cards

Mae gennym ddetholiad o Gardiau Cariad yma yng Ngardiau Cymraeg, gydag amrywiaeth o ddyluniadau sy’n addas at unrhyw achlysur. Os oes angen carden Santes Dwynwen, carden Penblwydd Priodas, neu jest carden Penblwydd i rywun annwyl, gallwch ei ffeindio nhw yma yn ein siop fach ni. Mae gennym rhai â darluniau ciwt, a rhai â theipograffeg feiddgar – pob un wedi’i ddarlunio / dylunio â llaw a’i chreu â chariad.

Mae ein cardiau hefyd yn berffaith i’w defnyddio fel nodiadau bach atgoffa i ddweud wrth eich anwyliaid faint maen nhw’n meddwl i chi, naill ai partner, chwaer, neu’ch ffrind gorau. Mae pawb wrth eu bodd yn cael eu caru, ac mae ein cardiau bach Cymreig ni yn ffordd fach berffaith o anfon cariad.

Dewch i bori ein Cardiau Cariad yma!