Posted on

Amsterdam

Fy antur fwyaf diweddar: taith dros 4 diwrnod i Amsterdam.

Amsterdam

Dwi’n caru anturio ac archwilio llefydd newydd, ac er fy mod fel arfer yn archwilio llwybrau arfordirol Cymru, penderfynais i a fy mhartner dianc am ychydig ddyddiau i deithio i le hollol wahanol. Gan ei fod hefyd yn fy mhenblwydd (yn ogystal â Dydd Sant Ffolant) penderfynon ni fynd i’r Iseldiroedd am seibiant dinas ac ymweld ag Amsterdam.

Yn wreiddiol daeth y syniad o fynd i Amsterdam o weld bod The Band Camino yn perfformio ar draws Ewrop, a bod ganddyn nhw gig yn Amsterdam diwrnod ar ôl fy mhenblwydd – mae fy mhartner a minnau yn caru’r band yma, ac felly hon oedd yr esgus perffaith i drefnu trip. Roedden nhw’n anhygoel.

Fe dreulion ni weddill y gwyliau yn crwydro’r ddinas aflonydd, ac ymweld â’r golygfeydd hyfryd sydd gan Amsterdam i’w chynnig. Pan gawsom ni tywydd gwael, aethom i archwilio arddangosfeydd ac orielau celf. Yr uchafbwynt i mi oedd bendant yr Amgueddfa Moco, lle gwelsom ni arddangosfa Banksy Laugh Now, rhai darnau celf gan Warhol, Haring a Hirst, ac yr arddangosfa golau fwyaf anhygoel gan Studio Irma. Mwynheais i’r daith, ac er nad oedd yn 4 diwrnod yn ‘ymlaciol’, roedd bendant yn seibiant braf o brysurdeb bywyd bob dydd.

Amsterdam

Byddaf bendant yn mynd nôl i Amsterdam pan fydd yna dywydd mwy braf.