Posted on

Daeth S4C i Fy Nhŷ

Os na welsoch chi’r rhaglen Heno ar S4C Dydd Gwener, ges i a fy siop fach Cardiau Cymraeg ymddangosiad bach! Ar deledu! Gwyliwch isod:

Os oeddech wedi dweud wrthyf flwyddyn yn ôl bydd S4C yn fy ngwahodd i i ffilmio eitem ar y rhaglen Heno, byddaf byth wedi eich credu – a bendant ni fyddaf wedi credu fy mod gallu goresgyn fy nerfau! Ond ges i wahoddiad, ac fe wnes i dderbyn y cyfle.

Heb amheuaeth hwn yw’r peth mwyaf brawychus rwyf byth wedi’i wneud, ond dwi mor falch fe wnes i. Daeth tîm lyfli o S4C draw i fy nhŷ, i gael gweld tu ôl i lenni fy siop Cardiau Cymraeg, ac i ofyn cwestiynau am y siop – lle ddechreuodd, fy ysbrydoliaeth ayyb. Roeddwn yn crynu fel deilen cyn iddyn nhw gyrraedd wythnos diwethaf, ond unwaith i ni gael y cwestiynau allan o’r ffordd, ges i lwyth o hwyl yn dangos peth o’r broses tu ôl i ddylunio fy nghardiau a pharatoi archebion.

Gan fod y cyfweliad i gyd heb gyrraedd y rhaglen, dyma’r cwestiynau ges i fy ngofyn a’r atebion

1. Tud bach o hanes y cwmni i ni. Lle dechreuodd y siop a pam?

Ges i’r syniad o ddechrau Cardiau Cymraeg o fy nhad a fy mrawd ar ôl i mi raddio o’r Brif Ysgol yn dylunio. O ni mhoen neud rhywbeth creadigol, bach o hwyl a rhywbeth lle allai dylunio ac arlunio. Er taw fi sy’n arlunio a dylunio’r cardiau, dwi wedi cael llwyth o gymorth o fy nheulu trwy greu’r gwefan, a rhoi adborth ar ddyluniadau newydd. Agorais i dudalen Instagram a lansio’r siop tua flwyddyn ynôl. Y bore ar ôl lansio ar Instagram ges i neges o’r siop gyntaf yn holi am stocio’r cardiau yn ei siop – o ni methu credu’r peth. Cyn darllen y neges wnes i ddim hyd yn oed ystyried gwerthu’r cardiau mewn siopau! Dwi’n parhau i gael llwyth o gymorth o fy nheulu a bendant wrth fy mhartner sy’n tynnu’r lluniau hyfryd o’r cardiau a’r printiau (gallwch weld ar y tudalen Instagram) a trwy helpu plygu’r cardiau a pharatoi archebion mawr.

2. Pam ddewisoch chi beidio defnyddio plastig? Beth wyt ti’n defnyddio yn ei le?

Roedd yn bwysig iawn i fi ddechrau rhywbeth mor ecogyfeillgar ag sy’n bosib, trwy sicrhau bod popeth yn fioddiraddadwy neu yn gallu cael ei ailgylchu. O ni bendant ddim eisiau ychwanegu at y broblem blastig, felly yn lle defnyddio pecynnau plastig defnydd-sengl ar fy nghardiau, dwi’n defnyddio bandiau papur crefft – sydd yn fioddiraddadwy a gall cael eu hailgylchu. O ran y printiau, dwi’n defnyddio pecynnau sy’n gweithio fel y rhai plastig, ond maen nhw wedi’u creu o startsh tatws, felly mae’r pecynnau yma’n hollol fioddiraddadwy hefyd!

3. Beth ydy dy ysbrydoliaeth pan wyt ti’n dylunio’r cardiau?

Dwi’n cael fy ysbrydoli o bawb a phopeth – o ran syniadau’r dyluniadau, ga’ i syniadau yng nghanol y nos, dwi’n neud nodiadau trwy’r amser, ac ambell waith gaf i negeseuon o gwsmeriaid yn gofyn: “Wyt ti’n gwerthu carden fel hon?” lle wy’n ateb “Dim ‘to, ond fe fyddai!” Mae fy nheulu a ffrindiau a fy mhartner yn awgrymu mathau o gardiau ddylen i ddylunio trwy’r amser. Mae yna lwyth o syniadau yn dod o bobman. Gwelai llun o anifail a meddwl dwi eisiau arlunio un o rain, heb wybod beth fydd y garden nes ar ôl i mi orffen y darlun.

4. Gyda San Ffolant ar y gweill oes unrhyw gardiau rhamantus newydd? Os oes, gallwn ni gael rhagolwg o un?

Mae yna lwyth o gardiau cariad ar gael ar wefan y siop, ond amser yma’r flwyddyn dwi yn cael fy ysbrydoli i greu rhagor yn barod at flwyddyn nesaf. Mae yna un allai ddangos i chi – dyw e heb gael ei danfon i brint eto. Dyluniad o ddau Puffin sydd ar y cerdyn yma. Ges i’r syniad ar ôl cerdded trwy dref fach yn Sir Benfro lle bu arlunydd yn paentio llwyth o puffins bach ar draws y dref. Gwelais i’r puffins yma, a chefais i fy ysbrydoli i arlunio un fy hun – felly fe wnes i heb syniad o ba fath o gerdyn fydd. Ar ôl i mi orffen y dyluniad, roedd y puffin yn edrych bach yn unig felly ychwanegais i un arall a charden cardiau trodd e mewn i.

Fy-Nghariad-S4C-Cardiau-Cymraeg-My-Love-Welsh-Cards

5. Beth yw eich gobeithion ar gyfer dyfodol Cardiau Cymraeg?

I fod yn hollol onest, dwi wrth fy modd gyda Cardiau Cymraeg a methu credu bod cymaint o bobl yn prynu’r cardiau heb sôn bod nhw’n cael eu gwerthu mewn siopau ar draws Cymru! Yn y dyfodol hoffwn i fod y siop yn bodoli, a hefyd fod llwyth mwy o ddyluniadau cardiau a phrintiau ar gael!

_

Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cefnogi’r siop mewn pob ffordd, a diolch mawr i S4C a thîm Heno am fy ngwahodd i’r rhaglen! x