Posted on

5 Diwrnod Da – Y Dydd Cyntaf

Gan ei bod hi’n dymor y Nadolig, mae Cardiau Cymraeg wedi penderfynu cymryd rhan mewn ‘5 Diwrnod Da’, sef rhywbeth rydym wedi cynllunio i ganolbwyntio ar un elusen neu ryw fath o achos bob dydd am y 5 diwrnod nesaf, i roi yn ôl amser yma’r flwyddyn. I ddechrau’r 5 diwrnod da, heddiw gwnaethom roi rhodd o ddau shoebox llawn anrhegion Nadolig, i’r elusenOperation Christmas Child.

5-Diwrnod-Da-Diwrnod-Un-Cardiau-Cymraeg-5-Good-Days-Day-1-Welsh-Cards

Mae’r rhodd yma’n syml iawn i’w neud – y cyfan sydd angen i baratoi yw penderfynu ar ryw ac oedran y plentyn ddylai derbyn eich bocs: bachgen neu Ferch, ac oed 2-4, 5-9 neu 10-14.

Wedyn dilynwch y pump cam nesaf:

1. Dewch o hyd i hen focs esgidiau a’i addurno â phapur lapio lliwgar, gan sicrhau eich bod chi’n lapio’r caead a’r bocs ar wahân fel y gellir eu hagor os bu angen.

– gan ein bod eisiau aros mor gyfeillgar i’r amgylchedd â phosib, fe wnaethon ni lapio ein blychau wrth ddefnyddio papur brown a thâp brown ailgylchadwy, a’u haddurno trwy ddarlunio goleuadau Nadolig.

2. Ewch i siopa (fy hoff ran) a dewiswch bethau i lenwi’r blychau gydag anrhegion hyfryd. Mae’n dda cadw mewn cof wrth siopa bod angen cyflenwadau ysgol, eitem “waw” – sef tegan gall y plentyn caru, eitemau hylendid, a phethau bach hwyliog. Yr unig broblem yw bod angen i’r holl bethau hyn ffitio o fewn y bocs esgidiau.

3. Paciwch y cyfan i fyny ac argraffwch y label gan nodi’r rhyw a’r oedran.

Dewisol ond wedi’i argymhellir:
Rhowch lun o’ch rhodd ar gyfryngau cymdeithasol i annog eraill i gyfrannu hefyd!

4. Rhoi £5 y blwch i’r elusen i helpu gyda chostau dosbarthu’r anrhegion i blant ledled y byd. Wrth roi’r rhodd yma, byddwch hefyd yn derbyn cod bar y gellir ei argraffu a’i roi tu fewn i’r blwch. Fe fydd y cod bar hwn wedyn yn cael ei sganio ac ym mis Ionawr byddwch yn derbyn e-bost yn dweud wrthych ym mha wlad wnaeth eich bocs lanio!

5. Ewch ar focs i’r lleoliad gollwch! Mae yna lwyth o leoliadau gollwng lle mae’r blychau hyn yn cael eu casglu, edrychwch ar y wefan yma i ddod o hyd i’ch lleoliad gollwng agosaf.

Cawsom gymaint o hwyl yn adeiladu’r blychau hyn, ac nid oes rhaid iddo fod yn rhy ddrud – aethom i siopau fel Poundland a Home Bargains a llwyddo i gael cymaint o bethau hyfryd am tua £10 y bocs. Gan ein bod wedi llenwi dau focs, fe wnaethon ni brynu pethau fel sbyngau a gwahanol ddeunydd ysgrifennu mewn pecynnau i’w rhannu rhwng y ddau focs. Eleni wnaethom benderfynu dewis yr oedran 2-4 ar gyfer ein blychau, un i ferch a’r llall i bachgen.

Dyma beth wnaethon ni ei gynnwys yn ein blychau esgidiau (wrth gwrs roedd popeth yn deg rhwng y bachgen a’r ferch):

– Tedi meddal

– Llyfr lliwio, llyfr sticeri a llyfr darlunio

– Cyflenwadau ysgol gan gynnwys: pensiliau lliwio, creonau a cas pensil i dal popeth (er mwyn arbed lle, tynnwch becynnu rhai pethau i ffwrdd)

– Brws dannedd, sbyngau, sebon, cymeriad hwyliog golchi (y pethau cawod puffy) a phlasteri plant

– botel dwr

– brws gwallt (i’r ferch)

– car bach (i’r bachgen)

– seiloffon plant

… ac wrth gwrs Cerdyn Nadolig Cardiau Cymraeg gyda neges fach Nadolig!

Mae yna restr o eitemau ni chaniateir, a rhai rheolau y mae’n rhaid dilyn wrth brynu ar gyfer y blychau – mwy o wybodaeth yma. Mae hwn yn ffordd fach hwyl i roi nôl y Nadolig yma, sy’n gwneud gwahaniaeth i blentyn mewn gwlad dlawd, a byddwn yn bendant yn parhau i wneud hyn bob blwyddyn. Yn anffodus nid oes llawer o amser ar ôl i roi’r blychau hyn, gan ei bod hi’n ddiwedd yr wythnos gollwng Dydd Llun y 18fed o Dachwedd. Er hyn, os cewch eich ysbrydoli i gyfrannu, ac os oes dim amser i bacio bocs yfory (a gollwng fore Dydd Llun) mae yna adran ar y wefan lle gallwch bacio bocs munud olaf gan ddewis eich eitemau ar-lein am £20 yn cynnwys y rhodd prosiect o £5, neu anfon blwch wedi’i phacio o flaen llaw ar-lein am yr un gost.

Edrychwch allan am ein postion Instagramblog i weld beth sydd yn mynd ymlaen yfory am ddiwrnod 2 o’n 5 Diwrnod Da!